Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
3 Chwefror 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11177
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda’r Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Ni chyflwynwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.15
Gwnaeth David Rees ddatganiad am - Diwrnod Canser y Byd (4 Chwefror).
Gwnaeth Helen Mary Jones ddatganiad am - Jonny Clayton, y Cymro Cymraeg o Bontyberem, yn Feistr y byd dartiau.
Gwnaeth Andrew RT Davies ddatganiad am - Teyrnged i’r Capten Syr Tom Moore.
5 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Clyw fy nghân: Ymchwiliad i'r diwydiant cerddoriaeth fyw
Dechreuodd yr eitem am 15.21
NDM7575 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Clyw fy nghân: ymchwiliad i’r diwydiant cerddoriaeth fyw, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Cefnogaeth i ofal lliniarol yn ystod y pandemig
Dechreuodd yr eitem am 15.50
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7581 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cofnodi 37,403 o farwolaethau yng Nghymru yn 2020.
2. Yn cydnabod effaith y pandemig COVID-19 ar y rhai sy'n darparu gofal diwedd oes a'r rhai sydd â salwch angheuol a'u hanwyliaid, yn enwedig o ystyried cyfyngiadau'r coronafeirws ar ymweliadau ag ysbytai, hosbisau a chartrefi gofal.
3. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol gofal lliniarol o ansawdd uchel a gwasanaethau cymorth profedigaeth o dan amgylchiadau o'r fath.
4. Yn nodi pryderon Coleg Brenhinol Nyrsys Cymru o ran nyrsys yn bod yn flinedig, o dan straen a bron wedi'u gorweithio'n llwyr oherwydd y pandemig a'r pwysau ychwanegol o ddarparu gofal diwedd oes.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) parhau i adolygu'r canllawiau sy'n gysylltiedig ag ymweliadau ag ysbytai, hosbisau a chartrefi gofal, fel bod teuluoedd a gweithredwyr yn gallu galluogi cyswllt diogel a thosturiol yn ystod gofal diwedd oes;
b) sicrhau bod y rhai sy'n nesáu at ddiwedd eu hoes, yn ogystal â'u hanwyliaid, yn gallu cael gafael ar ofal a chymorth emosiynol o ansawdd uchel;
c) cynyddu'n sylweddol y cymorth ariannol ar gyfer gofal lliniarol a gwasanaethau cymorth profedigaeth yn y flwyddyn ariannol nesaf i ddiwallu'r anghenion cynyddol a mwy cymhleth sy'n deillio o'r pandemig;
d) gweithredu cynllun hirdymor i gefnogi nyrsys a staff gofal i ddelio â straen wedi trawma a materion iechyd meddwl a achosir gan y gofyniad cynyddol am ofal lliniarol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
12 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
7 Dadl Plaid Cymru – Cyllido'r Llyfrgell Genedlaethol
Dechreuodd yr eitem am 16.23
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7580 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at y ffaith y bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cael ei gorfodi i dorri swyddi a chwtogi'n ddifrifol ar wasanaethau heb fwy o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ar frys y cyllid annigonol a ddyrannwyd i'r Llyfrgell Genedlaethol yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2022 a darparu setliad ariannu cynaliadwy i'r Llyfrgell Genedlaethol a fydd yn diogelu'r gweithlu presennol ac yn caniatáu i'r llyfrgell ehangu ei gwaith hanfodol ar gyfer y dyfodol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
28 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrthi’n cynnal ymgynghoriad a bod Llywodraeth Cymru’n parhau mewn trafodaeth barhaus â nhw i asesu pob opsiwn posibl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
9 |
16 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddetholwyd gwelliant 2 a gyflwynwyd i'r cynnig.
Gwelliant 3 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r dystiolaeth awdurdodol a ddarparwyd yn yr adolygiad teilwredig a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru nad yw'r Llyfrgell Genedlaethol yn cael y lefel o gyllid sydd ei hangen arni ar hyn o bryd i ddarparu ei gwasanaethau craidd.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Adolygiad Teilwredig o Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
28 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7580 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrthi’n cynnal ymgynghoriad a bod Llywodraeth Cymru’n parhau mewn trafodaeth barhaus â nhw i asesu pob opsiwn posibl.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
2 |
14 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
8 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.03 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 17.07.
9 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.11.
NDM7577 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Pam nad ydym yn caru ieithoedd rhyngwladol?
Sylwadau ar ddysgu ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru a rôl y prosiect mentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.36
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 14.30, Dydd Mawrth, 9 Chwefror 2021